Ni wnaeth y Pwyllgor ystyried unrhyw offerynnau statudol.
Gohebiaeth y Pwyllgor
CLA43 – Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Rhif 2) (Cymru) 2011
Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog i lythyr y Cadeirydd dyddiedig 14 Hydref 2011 ynghylch rhinweddau Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Rhif 2) (Cymru) 2011.
CLA31 – Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu wrth Dderbyn i’r Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2011 a CLA32 – Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Diwedd y Cyfnod Sylfaen a Dirymu Trefniadau Asesu’r Cyfnod Allweddol Cyntaf) (Cymru) 2011
Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog i lythyr y Cadeirydd dyddiedig 19 Hydref 2011, a oedd yn gofyn am hysbysu’r Pwyllgor yn ysgrifenedig os caiff pwerau o dan Erthygl 5 eu defnyddio eto yn y dyfodol. Roedd ymateb y Gweinidog yn awgrymu ei fod yn teimlo nad oedd angen ysgrifennu at y Pwyllgor ar wahân gan ei fod yn rhagweld y byddai’r mater yn destun ymgynghoriad ac, felly, yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Oherwydd natur y pŵer hwn (ac o gofio nad oedd gan y Pwyllgor y gallu i chwilio drwy wefan y Llywodraeth am faterion fel hyn yn rheolaidd), cytunodd y Pwyllgor y dylai’r Llywodraeth dynnu sylw’r Cynulliad at unrhyw ddefnydd yn y dyfodol. Gofynnwyd i Gadeirydd y Pwyllgor ysgrifennu at y Gweinidog eto yn gofyn iddo ailystyried.
Diffyg fersiynau Cymraeg o Offerynnau Statudol a gaiff eu gwneud ar y cyd â Gweinidogion y DU
Nododd y Pwyllgor lythyr gan Brif Weinidog Cymru ynghylch diffyg fersiynau Cymraeg o Offerynnau Statudol a gaiff eu gwneud ar y cyd â Gweinidogion y DU. Nododd y Pwyllgor ei bod yn ofynnol cyflwyno adroddiad ar offerynnau na chawsant eu gwneud yn Gymraeg.
Cytunodd y Pwyllgor nad oedd ymateb y Prif Weinidog yn gwbl ddi-fudd ond mai’r mater sylfaenol yw nad yw Senedd y DU yn craffu ar offerynnau statudol cyffredinol mewn ieithoedd ar wahân i Saesneg. Cytunodd y Pwyllgor i gynnal trafodaeth â chyfoedion yn Senedd y DU i ystyried y posibilrwydd o lacio’r arfer hwn er mwyn caniatáu i offerynnau statudol gael eu gwneud yn ddwyieithog.
Ymchwiliadau’r Pwyllgor: Ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Mr Richard Parry, Darllenydd mewn polisi cymdeithasol, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol, Prifysgol Caeredin.
Penderfyniad i gwrdd yn breifat
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi) penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod i drafod y dystiolaeth a gyflwynwyd hyd yn hyn i’r Ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol